Gwyddor Bwyd a Maeth


Trosolwg o'r cwrs

Bydd Tystysgrif Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Bwyd a Maeth yn eich galluogi chi i arddangos dealltwriaeth am wyddoniaeth diogelwch bwyd, maeth ac anghenion maeth mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, a thrwy sesiynau ymarferol cyfredol, er mwyn ennill sgiliau ymarferol i gynhyrchu eitemau bwyd i fodloni anghenion unigolion. Cafodd y cwrs ei gynllunio i gynnig profiadau cyffrous, diddorol drwy ddysgu cymhwysol, hynny yw drwy gaffael gwybodaeth a dealltwriaeth mewn cyd-destunau pwrpasol, perthnasol i’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r diwydiant cynhyrchu bwyd.

Pa sgiliau gallaf eu magu?

Byddwch yn datblygu ac yn ehangu eich sgiliau ymarferol o safbwynt paratoi bwyd ac mae diben cymhwysol yn gysylltiedig â phob uned o’r cymhwyster, sydd yn ffocws ar gyfer yr uned dan sylw. Mae’r diben cymhwysol yn golygu bod angen cyflawni gwaith dilys sy’n gysylltiedig â’r hyn a ddysgir ym mhob un o’r unedau sydd ar gael. Hefyd mae gofyn ichi ystyried sut gall defnyddio’r hyn a ddysgir effeithio arnoch chi eich hun, ar unigolion eraill, cyflogwyr, cymdeithas a’r amgylchedd. Bydd y diben cymhwysol hefyd yn eich galluogi i ddysgu mewn ffordd er mwyn datblygu:

- sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dysgu annibynnol a sgiliau datblygu i sicrhau eich iechyd dietegol a’ch llesiant personol
- ystod o sgiliau generig a throsglwyddadwy a’r gallu i ddatrys problemau; sgiliau ymchwil a seilir ar brosiectau, datblygiad a chyflwyniadau
- y gallu i ddefnyddio sgiliau mathemategol a sgiliau TGCh
- gallu sylfaenol i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill, mewn amgylchfyd proffesiynol
- y gallu i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd mewn cyd-destunau galwedigaethol.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/gwyddor-bwyd-a-maeth-lefel-3/#tab_keydocuments

Cyfleoedd

Mae dealltwriaeth am wyddoniaeth bwyd a maeth yn berthnasol i lawer o ddiwydiannau a swyddi. Mae darparwyr gofal a maethegwyr mewn ysbytai’n defnyddio’r wybodaeth hon, fel y gwna hyfforddwyr chwaraeon a hyfforddwyr ffitrwydd. Mae gwestai a thai bwyta, cynhyrchwyr bwyd ac asiantaethau’r llywodraeth hefyd yn defnyddio’r ddealltwriaeth hon i ddatblygu bwydlenni, nwyddau bwyd a pholisïau sy’n cefnogi mentrau bwyta’n iach. Mae llawer o gyfleoedd cyflogaeth ym maes gwyddoniaeth bwyd a maeth ar gael i raddedigion.

Gwybodaeth allweddol

Mae mwyafrif y cyrsiau'n ddwy flynedd o hyd oni nodir yn wahanol.

  Cod QiW: C00/0726/2

  Cymhwyster: WJEC Level 3 Diploma

Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu huwchlwytho. Dim ond os oes niferoedd digonol y gall cyrsiau redeg.

Darparwyr

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility