Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygiad


Trosolwg o'r cwrs

Mae'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol o'r maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant â'r sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y sector.

Mae'n galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gael gwaith a/neu i symud ymlaen mewn gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd. Mae'n cyfuno unedau ymarfer sy'n cael eu hasesu yn y gweithle â gwybodaeth ddamcaniaethol ychwanegol.

Bydd dysgwyr yn mynychu gwersi am 2 ddiwrnod yr wythnos, a lleoliad gwaith am 2 ddiwrnod yr wythnos.

Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gael gwaith a/neu i symud ymlaen mewn gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd.

Mae'n cyfuno'r ddwy uned ymarfer sy'n cael eu hasesu yn y gweithle â gwybodaeth ddamcaniaethol ychwanegol. Mae elfen ymarfer y cymhwyster hwn yn adlewyrchu cynnwys y cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer.

https://www.meithrin.cymru/lefel-3-ymarferatheori/

Cyfleoedd

Mae cwblhau’r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio blynyddoedd cynnar, addysg, neu nyrsio yn y brifysgol. Bydd y dysgwr hefyd yn gymwys ar gyfer y swyddi canlynol:
• Cynorthwyydd dosbarth
• Arweinydd Cylch Meithrin
• Cynorthwyydd Cylch Meithrin
• Nani
• Cynorthwyydd Cyfnod Sylfaen
• Cynorthwyydd Meithrinfa Ddydd

Gwybodaeth allweddol

Mae mwyafrif y cyrsiau'n ddwy flynedd o hyd oni nodir yn wahanol.

  Cod QiW: C00/1249/6

  Cymhwyster: WJEC Level 3

Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu huwchlwytho. Dim ond os oes niferoedd digonol y gall cyrsiau redeg.

Darparwyr

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility