Gwasanaethau Lletygarwch


Trosolwg o'r cwrs

Mae Diploma mewn Gwasanaethau Lletygarwch yn cynnwys unedau bwyd a di-fwyd.

Mae’r rhaglen yn un 14 mis o hyd â 64 credyd.

Mae’n ofynnol i ddysgwyr gymryd unedau gorfodol a fydd yn cynnwys agweddau o gynnal a chadw amgylchedd gwaith diogel, hylan a sâff, gan weithio’n effeithiol fel rhan o dîm lletygarwch, gan roi i gwsmeriaid argraff gadarnhaol ohonynt eu hunain a’u sefydliad a glanhau a gwasanaethu amrywiaeth o feysydd cadw t? mewn amgylchedd lletygarwch. Yna, bydd dysgwyr yn cael y dewis o unedau dewisol sy’n cynnwys gwahanol feysydd lletygarwch derbynfa blaen t?, cadw t? neu wasanaethau lletygarwch.

Ceir amrywiaeth eang o unedau dewisol sy’n galluogi dysgwyr i ddewis unedau i fodloni anghenion eu rôl gwaith eu hunain.

Bydd angen i ddysgwyr gael lleoliad gwaith ar gyfer asesiadau byw, ni ellir dynwared rhain.

Disgwylir i ddysgwyr wneud 1 neu 2 ddydd yr wythnos gyda chyflogwr yn ogystal ag 1 neu 2 dydd y mis mewn ystafell ddosbarth. Byddai mynediad at liniadur yn fuddiol.

Cyfleoedd

Ar ôl ichi lwyddo i gwblhau’r cwrs yma, gallwch ddewis symud ymlaen at gyrsiau neu brentisiaethau Lefel 3 cysylltiedig. Fel arall, gallwch ddewis mynd i weithio yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch, gan ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gennych.

Gwybodaeth allweddol

Mae mwyafrif y cyrsiau'n ddwy flynedd o hyd oni nodir yn wahanol.

  Cod QiW: C00/0231/2

  Cymhwyster: City & Guilds Level 2 NVQ Diploma

Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu huwchlwytho. Dim ond os oes niferoedd digonol y gall cyrsiau redeg.

Darparwyr

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility