Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant


Trosolwg o'r cwrs

Bydd TAG mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant consortiwm y City & Guilds / CBAC, yn eich arfogi â gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau trylwyr a manwl sy’n berthnasol i ddatblygu gofal unigolion drwy gydol ei oes o’i genhedliad i fod yn oedolyn yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae gennych gyfle i ddatblygu’ch dealltwriaeth am ddylanwadau ar dwf, datblygiad, ymddygiad a llesiant dynol. Byddwch hefyd yn cael dealltwriaeth fanwl am anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a diwylliannol pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, a chydnabod bod gan bob unigolyn gymysgedd unigryw o alluoedd ac anghenion. Byddwch yn elwa wth gael dealltwriaeth drylwyr am sut mae darpariaeth gwasanaeth yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a llesiant unigolion er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau gwybodus nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.

Manyleb: https://www.dysguiechydagofal.cymru/cymwysterau/advanced-gce-and-advanced-subsidiary-gce-in-health-and-social-care-and-childcare/

Cyfleoedd

Wrth ddilyn astudiaeth eang o iechyd a diogelwch a gofal cymdeithasol yn AS a dewis o lwybrau yn A2, byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth mewn un ai gofal plant neu iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion.

https://gyrfacymru.llyw.cymru/gwybodaeth-am-swyddi/erthygl/iechyd-a-gofal-cymdeithasol

Gwybodaeth allweddol

Mae mwyafrif y cyrsiau'n ddwy flynedd o hyd oni nodir yn wahanol.

  Cod QiW: C00/3716/2

  Cymhwyster: WJEC A Level

Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu huwchlwytho. Dim ond os oes niferoedd digonol y gall cyrsiau redeg.

Darparwyr

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility